Portrait of COMODOR YR AWYRLU ROB WOODS

COMODOR YR AWYRLU ROB WOODS

OBE MA BEng (Anrh) RAF

English

Mae Swyddog Awyr Cymru yn cefnogi Pwyllgor Gweithredol Bwrdd yr Awyrlu, trwy Bennaeth Cynorthwyol y Staff Awyr, er mwyn gwella delwedd gyhoeddus ac ymwybyddiaeth gadarnhaol o'r Awyrlu ledled Cymru.

Yn unol â’r Genhadaeth Amddiffyn, Cynllun Rheoli’r Awyrlu Brenhinol, a Strategaeth Ymgysylltu’r Awyrlu Brenhinol, mae Swyddog Awyr Cymru yn sefydlu ac yn cynnal cyswllt a pherthynas waith agos ag: Arweinwyr a Swyddogion Llywodraeth Cymru; Awdurdodau Lleol a Chynghorau Cymuned; Arglwydd Raglawiaid; uwch gynrychiolwyr y Llynges Frenhinol a'r Fyddin; Academia; Diwydiant; Elusennau (yn enwedig Elusennau Gwasanaeth); a Chyn-filwyr.

Details

Ganwyd Comodor yr Awyrlu Rob Woods yn 1969 ac fe gafodd ei addysgu yng Ngholeg Ardingly yng Ngorllewin Sussex. Yn dilyn ôl troed ei dad, cafodd ei gomisiynu i’r Llu Awyr Brenhinol yn 1987 cyn astudio Peirianneg Awyrenegol a Dylunio ym Mhrifysgol Loughborough ar gynllun Cadetiaeth y Brifysgol. Graddiodd yn 1990, gan ymuno’n syth â Hyfforddiant Cychwynnol i Swyddogion a hyfforddiant arbenigol i swyddogion peirianneg. Roedd ei dymor dyletswydd cyntaf fel Prif Swyddog Awyrennau ‘C’, Sgwadron Gwasanaethu Rheng ‘A’, yn RAF Lyneham lle bu’n gyfrifol am y gwasanaeth cynnal a chadw rheng flaen ar gyfer 25 o awyrennau Hercules C-130K.

Ym mis Ionawr 1993, cafodd ei benodi’n Swyddog Peirianneg Llynges Rhif 1312 yn RAF Mount Pleasant yn Ynysoedd Falkland, lle roedd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r awyrennau Hercules sy’n ail-lenwi tanwydd yn yr awyr. Ar ôl dychwelyd i’r DU, cafodd gyfnod arall o hyfforddiant arbenigol cyn cael ei anfon yn gyntaf i RAF Sain Tathan fel Prif Swyddog Atgyweirio Awyrennau Rhif 1 yn y Sgwadron Cymorth Atgyweirio. Yna, yn 1996, aeth i RAF Wyton fel Swyddog Prosiect ASTOR (Sentinel) yn adran Rheoli Logisteg yr RAF. Yn 1999, cafodd ei ddyrchafu’n Arweinydd Sgwadron a’i anfon i’r Pencadlys Gorchmynnu Ymosodiadau yn RAF High Wycombe.

Ym mis Gorffennaf 2000, cafodd ei ddewis yn Uwch Swyddog Peirianneg cyntaf ar awyrennau trafnidiaeth strategol C-17 Globemaster III. Yn ystod y tymor dyletswydd hynod o brysur hwn, roedd yn gyfrifol am adnewyddu a sicrhau bod safle Sgwadron Rhif 99 yn RAF Brize Norton yn barod, yn ogystal â chefnogi gweithrediadau cynnar yn Affganistan. Ym mis Awst 2002, symudodd yn ôl i’r Pencadlys Gorchmynnu Ymosodiadau i fod yn Swyddog Staff Personol i’r Swyddog Logisteg Awyr a Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth (Prif Beiriannydd yr RAF). Ar ôl cael dyrchafiad i fod yn Gadlywydd Adain a mynychu Cwrs Rhif 8 i Staff a Rheolaeth Uwch yn y Coleg Rheoli Cyd-wasanaethau a Staff yn Shrivenham, symudodd, ym mis Awst 2005, i Abbey Wood y Weinyddiaeth Amddiffyn fel rhan o Dîm Prosiect Integredig Nimrod MRA4. Ym mis Awst 2007, cafodd ei ddewis i fod yn rheolwyr a chymerodd yr awenau fel Cadlywydd Gorsaf RAF Sain Tathan a Swyddog Rheoli Rhif 4 yn yr Ysgol Hyfforddiant Technegol. Dychwelodd i Abbey Wood ym mis Gorffennaf 2009 fel Swyddog Staff 1 Cynlluniau Awyr, cyn mynd ar leoliad ym mis Mehefin 2011 ar daith weithredol 6 mis i Grŵp Awyr Ymgyrchol Rhif 83 yn y Dwyrain Canol fel Pennaeth Staff i Gadlywydd Cydrannau Awyr y DU. Ar ôl cyfnod byr iawn yn yr Awdurdod Hedfanaeth Milwrol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, cafodd ei ddyrchafu’n Gapten Grŵp ym mis Mai 2012 a’i neilltuo i’r Tîm Strategaeth Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth, lle’r oedd yn gyfrifol am ymgysylltu â’r Rheolwyr Rheng Flaen. Ym mis Medi 2014, daeth yn Bennaeth Staff cyntaf ar gyfer yr Awdurdod Diogelwch Amddiffyn newydd, a oedd yn gyfrifol am sefydlu ffederasiwn y Rheoleiddwyr Diogelwch Amddiffyn a sbarduno newidiadau i oruchwyliaeth reoleiddiol ac ymchwilio i ddamweiniau. Ar 1 Mawrth 2017 cafodd ei benodi’n Gadlywydd Gorsaf RAF High Wycombe a Chapten Grŵp Lluoedd sy’n Ymweld o’r Unol Daleithiau. Cafodd ei ddyrchafu’n Gomodor yr Awyrlu ym mis Ebrill 2019, a chafodd ei benodi’n Bennaeth Staff (Awyr) yn yr adran Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth. Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2021, cafodd ei secondio i arwain Tîm Gweithrediadau yr Adran Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth, gan gydlynu’r ymateb i bandemig Covid-19 a’r adferiad ohono, yn ogystal â chefnogi Brexit. Yn 2024, bydd Comodor yr Awyrlu Woods yn ymgymryd â dau benodiad newydd: Swyddog Awyr Cymru ac Aide-de-camp i ei Fawrhydi y Brenin; a’r Arweinydd Gweithredu ar gyfer ‘Sub-Boundry 2’ yn yr Adran Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth.

Penodwyd Comodor yr Awyrlu Woods yn OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2010. Mae’n briod â Margaret (sy’n Gymraes!) ac mae ganddynt dri o blant: James (26), Scarlett (24) ac Esther (22). Ac yntau’n hoff iawn o chwaraeon, ef yw Llywydd Cymdeithas Cyfeiriadu’r RAF ac mae’n treulio ei amser hamdden yn cystadlu (ac yn ceisio peidio â mynd ar goll) yn y DU a thramor.

Connect with Air Officer Wales